Y Stablau
Trefeddyg
Hafan > Llety
Llety
Mae ein llety hunan-arlwyo yn Y Felinheli ar y Fenai 'wyneb i waered' ac yn cysgu dau + un plentyn yn gyfforddus (cot ar gael). Lawr grisiau mae cyntedd eang gyda man eistedd a mynediad i'r ardd, ystafell wely ac ystafell gawod tra i fyny'r grisiau mae cegin a man bwyta yn edrych dros yr ardd ac ardal ymlacio.
Rydym yn croesawu cŵn ac mae digon o lwybrau lleol yn cychwyn o'r drws tua'r môr neu mynydd.
Tu allan i'r blaen mae parcio i ffwrdd o'r stryd gyda pwynt gwefru car trydan. I'r cefn mae patio heulog gyda man eistedd, gardd, BBQ, bwrdd a set badminton i'ch diddanu.
Mae bwytai a thafarndai o fewn pellter cerdded rhwydd a'r lleoliad yn berffaith ar gyfer mynediad i Ynys Môn neu Eryri.
Mae'r llety yn cynnwys:
- Ystafell wely
- Ystafell gawod
- Cyntedd eang
- Ystafell fyw/cegin/bwyta agored
- Teledu, DVD a system sain
- Wi-fi
- Patio ac ardal BBQ
- Defnydd o'r ardd, rhwyd a racedi badminton
- Parcio
- Man gwefru car
- Defnydd rennir o beiriant golchi a sychu
Cyflenwn:
- Dillad gwely a llieiniau
- Basged groeso
- Trydan a gwres