Y Stablau
Trefeddyg
Hafan > Beth i'w Wneud
Beth i'w Wneud
Ble i gychwyn.......
O'r drws ffrynt, rydych o fewn pum munud i draeth a marina y Felinheli, perffaith ar gyfer paddlo ac ar lwybr yr Arfordir.
Mae gwarchodfa natur Cwm Idwal yn Eryri o fewn hanner awr neu defnyddiwch y bws lleol i gysylltu gyda'r Sherpa aiff a chi i galon y mynyddoedd.
Eisiau rhywbeth i ffwrdd o'r torfeydd? yna mae'r Llwybr Llechi trwy safle chwareli Treftadaeth y Byd i chi gyda bysiau i'ch cludo i'ch man cychwyn.
Mae cestyll Treftadaeth y Byd Caernarfon, Biwmares a Chonwy o fewn hanner awr a chestyll Tywysogion Gwynedd gerllaw ynghyd ac eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Plas Newydd, Castell Penrhyn a Gerddi Bodnant ychdyig pellach. Peidiwch ag anghofio traethau Ynys Môn o Llanddwyn i Penmon a thraethau Llŷn.
Am gyffro mentrwch Zip World neu'r Ribride neu am antur mwy hamddenol eich i padl fyrddio ar lyn Padarn, Llanberis neu mynd ar gwch saffari i Ynys Seiriol (Puffin Island)