Cartref oddi cartref ar lan y Fenai

Yn addas i gwpl neu deulu ifanc, mae ein llety 'ben ucha'n isaf/wyneb i waered' yn cynnig gofod i ymlacio a mynediad uniongyrchol i'r ardd.  

Hanner ffordd rhwng Bangor a Charenarfon rydym yn gyfleus i bopeth gyda llwybr bws a'r Lôn Las yn rhedeg ger y ty, mynediad rhwydd i lwybr yr arfordir ac o fewn cyrraedd i warchodfeydd natur lleol, traethau AHNE Môn, Parc Cenedlaethol Eryri a safleoedd CADW a'r Ymddirideolaeth Genedlaethol.

Mae lle tu mewn i barcio'ch beic neu sach gefn a detholiad o fapiau a llyfrau teithiau lleol ar gael i'ch defnydd. Ac i gloriannu'r cwbl, mae amrywiaeth o fwytai yn y pentref gydag un o'r golgfeydd gorau o'r machlud dros y Fenai - os yw'r tywydd Cymreig yn caniatau.

Geirda

"Great base - We've walked miles of coastal paths and seen porpoises and choughs."


- Jane and Pete

"Love This Place - Our tenth visit and we still find something new to do. Thank you again for the welcome hamper and local knowledge."


- Chris and Liz

"Wonderful cottage - Such friendly hosts and lovely welcome hamper."


- Paul and Jane

"Another enjoyable stay - Who could ask for anything more from this peaceful home."


- Phil and Elaine